Gweithdai y Ffrinj

Mae gennym ystod gyffrous o weithdai ar gyfer y teulu cyfan eleni. 

Maen nhw i gyd yn rhad ac am ddim, ond gofynnwn i chi gofrestru ar gyfer unrhyw un yr hoffech fod yn bresennol.

13
Gorff
2024

Storytelling Workshop

Sad-13-Gorff 1:00 pm
Di-dal
Storytelling Workshop

Join writer Daisy Green for a storytelling workshop, suitable for all ages. An adult must accompany children.

Immerse yourself in an adventure through the lives of trees, squirrels, hawks, and foxes as they struggle to care for their families during hard times. Watch as the animals come together to form a supportive community. Participants will design masks using nature-based materials to become part of the story or create their own unique story.

All materials are provided, but feel free to bring back any nature-based items you find while exploring outside.

Mae'n ddrwg gennym, nid ydym yn cymryd cofrestriadau ar gyfer y digwyddiad hwn mwyach.

13
Gorff
2024

Binderella

Sad-13-Gorff 4:00 pm
£12.00
Binderella

Mae babi’n crio mewn bin yn y nos - wrth i Ddyn Diwyneb werthu tir am elw; mae tŵr tal yn codi - wrth i Goeden y Byd ysgwyd; ac mae tynged y byd yn dibynnu ar un edau sidan o we corryn.

Mae Binderella yn stori ar gyfer ein cyfnod ni, chwedl genedigaeth wyllt Gwrth-dduwies sy’n herio grymoedd trachwant a digalondid sy’n ceisio dwyn ein dyfodol oddi arnom. Mae’r stori ryfeddol anarchaidd hon yn rhoi cip i ni trwy’r craciau yn ein cymdeithas, gan gyfuno galwad i ymgyrch amgylcheddol gyda galwad ddyrchafol am gydymdeimlad a dewrder yn y cyfnod hwn o argyfwng.

Yn y perfformiad cyntaf hwn mae’r Ragged Storytelling Collective; Kestrel, Heulwen a Hazel, yn plethu eu gweledigaeth yn glytwaith unigryw, trwy bwytho egni chwedleua pync gydag edau deimladol o alaw werin a chân Gymreig yn yr epig chwyrn o fodern hon.

Datblygwyd y gwaith yn wreiddiol trwy gynllun Lleisiau Newydd Gŵyl Chwedleua Beyond the Border yn 2021 ac fe’i datblygwyd ymhellach trwy fuddsoddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arian y Loteri Genedlaethol. Gyda chefnogaeth greadigol gan y chwedleuwr adnabyddus yn rhyngwladol, Daniel Morden, a’r cerddor gwerin amlwg o Gymru, Oliver Wilson Dixon, bydd y sioe yn eich cyfareddu.Mae Kestrel yn berfformiwr deinamig ac angerddol gyda gweledigaeth unigryw. Mae Binderella yn gyfuniad difyr o atgofion, chwedlau a’r Matrix. Rhaid i chi ei gweld!

Drysau 13:30, perfformiad 14:00

Gwybodaeth Tocynnau

Math o Docyn Pris
Oedolion/Adults £12.00
12-18oed/yrs £6.00

Mae'n ddrwg gennym, nid ydym yn cymryd cofrestriadau ar gyfer y digwyddiad hwn mwyach.

FaLang translation system by Faboba